Rhoi natur ar y llwybr i adferiad

Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru warchod ein hafonydd, ein moroedd a’n tir i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol trwy neilltuo 1% o’r holl gyllidebau adrannol i adfer natur a brwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Polisi 1

Neilltuo 1% o’r holl gyllidebau adrannau i natur a hinsawdd a chwilio am gyfleoedd cyllido newydd

Darllen mwy

Mae angen arian ychwanegol i hybu a chefnogi ymdrechion i adfer natur a brwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau bod yr HOLL Weinidogion yn buddsoddi a gwreiddio natur mewn penderfyniadau a fydd yn cyflawni dros bawb yn y pen draw – o iechyd i benderfyniadau cynllunio llywodraeth leol.

Dychmygwch beth ellid ei gyflawni pe bai dim ond 1% o’r holl gyllidebau adrannau’n cael ei dyrannu i atebion wedi’u seilio ar natur!

Gellid creu buddsoddiadau enfawr yn syth – a byddai enillion yn y dyfodol yn eu had-dalu ar eu canfed.

Fel rhan o’r ffordd newydd hon o fuddsoddi, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ddefnyddio’r pwerau a gafodd yn ddiweddar i godi arian cyfalaf cyhoeddus a phreifat mewn ffyrdd newydd, fel buddsoddi cyfalaf naturiol i ddod ag arian newydd i’r gwaith o adfer a chreu natur.

Beth alla i wneud?

Polisi 2

Creu ac Adfer cynefinoedd toreithiog o garbon er mwyn atal dirywiad natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd

Darllen mwy

O’n hucheldiroedd mawnog i’n dolydd morwellt arfordirol, mae gan Gymru ecosystemau cyfoethog ac amrywiol. Maent yn gartref i rai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig, ac hefyd yn darparu gwasanaethau naturiol hollbwysig fel amddiffyn rhag llifogydd a chadw carbon.

Fodd bynnag, mae degawdau o weithgarwch pobl a newid hinsawdd wedi achosi niwed mawr. Mae llawer o’r ardaloedd hyn wedi dirywio cymaint nes bod amheuaeth am eu dyfodol, oni weithredwn i’w hadfer.

Y newyddion da yw y gallwn newid cyfeiriad dirywiad natur Cymru mewn ffordd sydd hefyd yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ganolbwyntio ar fuddsoddi mewn creu ac adfer cynefinoedd toreithiog o garbon, fel mawndiroedd, morfeydd heli, morwellt a choetiroedd – sy’n tynnu carbon deuocsid o’r atmosffer. Rhaid i hyn gynnwys buddsoddi yn ein rhwydwaith o safleoedd Natura 2000; SoDdGA; a Pharthau Cadwraeth Morol.

Beth alla i wneud?

Polisi 3

Gwaredu rhwystrau artiffisial o afonydd er mwyn caniatáu i natur lifo

Darllen mwy

Mae byd naturiol iach yn ffynnu mewn tirweddau helaeth cysylltiedig. Mae’n golygu bod gan rywogaethau gwahanol leoedd mwy o faint a mwy diogel i fyw ynddynt nag y byddai ganddynt mewn tirwedd dameidiog. Mae hefyd yn golygu y gallant wrthsefyll newid yn well, trwy roi mwy o gyfleoedd iddynt symud ac ymaddasu.

Ond prin yw’r tirweddau cysylltiedig hyn yng Nghymru, wrth i bethau fel ffyrdd, adeiladau ac argaeau greu rhwystrau newydd i natur yn rheolaidd, sy’n peryglu ei dyfodol. I fynd i’r afael â hyn rhaid inni ddechrau adeiladu mewn ffordd ddoethach; ond hefyd mae angen inni waredu rhwystrau nad oes arnom eu hangen mwyach.

‘Seilwaith llwyd’ yw’r enw ar y rhwystrau hyn. Pethau yw’r rhain yr oedd arnom eu hangen ar un adeg ond nas defnyddir mwyach - yn aml cânt eu gadael i ddadfeilio neu fynd yn angof. Gan edrych ar afonydd yn benodol, maent yn cynnwys pethau fel hen goredau, argaeau, hen gynheiliaid pontydd a chwlfertau.

Trwy waredu rhwystrau o’r fath, byddai Llywodraeth nesaf Cymru’n adfer llif naturiol ein hafonydd, gan wella eu gallu i wrthsefyll newidiadau tymhorol, llifogydd, llygredd, a digwyddiadau mawr fel stormydd sy’n debygol o ddigwydd yn amlach oherwydd newid hinsawdd.

Yn y tymor hirach, mae tirweddau cysylltiedig wedi’u hadfer yn hybu bioamrywiaeth trwy alluogi rhywogaethau a ddisodlwyd i ddychwelyd a chynefinoedd hanesyddol i adfywio.

Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal arolwg cenedlaethol o’r holl seilweithiau llwyd problemus ar afonydd, ac ariannu rhaglen i’w gwaredu.

Beth alla i wneud?

Polisi 4

Sicrhau Corff Llywodraethu Amgylcheddol ôl-Brexit cryf ac annibynnol yn ei blwyddyn gyntaf.

Darllen mwy

Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau bod ein hegwyddorion a system llywodraethu amgylcheddol cystal, os nad gwell, ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu i gryfhau gwarchodaeth i rywogaethau a chynefinoedd, gwella ansawdd aer a glanhau afonydd a moroedd: rhaid i’r cynnydd hwn barhau.

Mae proses yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn gwarchod hawliau dinasyddion trwy ddarparu ffordd heb rwymedigaeth i unrhyw un godi pryderon amgylcheddol a chael mynediad at gyfiawnder yn erbyn y rheiny yr amheuir eu bod yn torri cyfraith amgylcheddol. Gall hyn arwain at orchymyn i’r rhai sy’n euog gymryd camau i unioni eu gwallau, yn ogystal â gwneud ail-droseddu’n llawer llai tebygol.

Mae’n hanfodol i gryfder y system hon gael ei gynnal, os nad ei gryfhau, gan Lywodraeth nesaf Cymru: rhaid iddi roi blaenoriaeth i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol cryf ac annibynnol, ag adnoddau digonol, yn ei blwyddyn gyntaf.

 

Beth alla i wneud?

Mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis sy’n cadw gwybodaeth nad yw’n bersonol i ddarparu gwasanaethau i chi ac i’n helpu i wella ein safle.